Steddfod Syndrome

Wedi cael cam?

Ydych chi erioed wedi cael cam yn yr eisteddfod?  Erioed wedi cael eich curo gan rhywun oedd yn gwaeth na chi?  Mae’r gwrthwyneb yn wir i mi – fi di dod yn gyntaf gyda parti bechgyn glantaf yn steddfod llanbed – ar ôl meimio yn y cefn – gyd gallai neud yw diolch i weddill y bois!

Ydych chi erioed wedi anghofio’ch geiriau fel Wil Cwac Cwac a poeni bod eich rhieni mynd i stopio eich caru chi?

Ma’n byd ni yn dysgu ni o oedran ifanc iawn bod ein statws ni yn dibynnu ar ba mor dda ydyn ni.  Ma na bwyslais i lwyddo – i ennill bob cystadleuaeth ac i basio bob arholiad.

Fi’n cofio bod yn gutted bod fi ddim wedi cael tair A yn fy arholiadau AS!

Ond yn Rhufeiniaid 12 ni’n cael ein dysgu i beidio a meddwl fel y byd – i weld pobl yn llai neu yn fwy na ni.  Oherwydd mae pawb yr un peth i Dduw.  Dychmygwch beth odd hwna’n olygu i Gristnogion Rhufeinig.

Rhufain – dinas ac ymerodraeth llawn heiararchiaeth – pawb yn is neu yn uwch na’i gilydd.  Odd y syniad bod pawb yn yr Eglwys yn hafal yn un anodd iddynt – caethwas yn eistedd gyda’r cyfoethog.  Caethwas yn dysgu y cyfoethog?

Dychmygwch beth ma fe’n golygu i bobl y Dhalit yn India neu yn niwrnod Wiberforce.

Ond beth amdanom ni – ydyn ni’n gallu gweld heibio beth mae’r byd yn dweud sy’n dda – a phwy ma’r byd yn dweud sy’n bwysig! 

Os ydw i’n deall gras – sut ydw i’n gallu gweld fy hun yn well, neu’n waeth nag unrhyw un?  Os ydw i’n deall fy mod i’n pechadur – a fy mod i wedi derbyn y rhodd o faddeuant – sut allai ymffrostio?  Wrth i fi ddeall hyn – fi hefyd yn cael fy atgoffa does yna ddim grwp o bobl sy’n gallu cael eu hachub a rheiny sydd ddim – mae pawb yn gallu dod at Dduw i derbyn yr un rhodd – y rhodd ni gyd angen derbyn – maddeuant.

Un o hoff ganeuon fy nhad yw cân plant o’r enw ‘I’m Special’  ac ma’r plant yn ei ysgol yn canu fe’n rheolaidd!  Ma fe isie i bob un o’r plant yna deall yng nghanol yr holl gwaith academaidd, yng nghanol yr holl cystadlaethau – bod pob un ohonyn nhw yn sbeshal yn llygaid eu Duw nhw.

Ma fe’n wir i bob un ohonom ni!

1 Response to “Steddfod Syndrome”


  1. 1 Dyfed May 27, 2011 at 7:37 am

    Cytuno’n llwyr efo ti, Derek.

    Tybed pa wahaniaeth a wneid yn y byd a’r eglwys petai ni’n byw fel hyn go iawn? Fyddem ni’n cael gwared o gystadleuaethau – sydd ond efo un bwriad sef gweld pwy yw’r gorau? Fyddai rhaid i’r eisteddfod newid yn eithaf sylweddol? A beth am yr eglwys? Mae heierarchi yn rhan mor sylfaenol o’i syniadau am arweinyddiaeth. Sut byddai rhaid i hyn newid tybed?

    Mwy o gwestiynnau nag atebion mae arna’i ofn!


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Connecting to %s





Follow

Get every new post delivered to your Inbox.