3 Llyfr

Fi’n trio dysgu rhyw fath o hunan-ddisgyblaeth.  Fi’n fforsio fy hunain i gael diwrnod off -a heddi, so far, fi’n neud yn eitha da!  Fi’n teimlo’n ddiog a fach yn euog, ond fi’n dyfalbarhau ar fy nghwest i neud dim byd am ddiwrnod. 

Nath y diwrnod dechre off yn dda gyda trip i slimming world – lle gollais i pum pwys a hanner, ar ôl bod ar rhyw fath o ddeiet am wythnos.  Fi’n lyfo slimming clubs – ma nhw’n hilêriys – ond am  y ffaith bod rhan fwyaf o’r menwod sy na yn credu bod nhw ar loose women! 

Rhywbeth arall i ddathlu heddiw yw bod fi wedi ffindio copi o hen albym Chris Tomlin – yr un gyda Ysblander Brenin Nef ac Indescribable arno fe!  Ma fe’n DWYM!  Traciau 7 a 9 yn WICKED!

Anyway…

Fi moin blogio am dri llyfr fi di darllen yn ddiweddar – un Cristnogol a dau sydd ddim.  Un o fy hoff deimladau yw’r teimlad na chi’n gal wrth offen llyfr!  Y teimlad o acheivment a’r posibliaidau wrth ddewis eich llyfr nesaf!

Un Ddinas Dau Fyd – Llwyd Owen

Nes i rili mwynhau y nofel yma – ond am y sex scenes di-angen (fi’n dweud hyn am bob nofel fi’n darllen- mainly oherwydd fi ond yn darllen nofelau Llwyd Owen a Dewi Prysor!)  Fi’n eitha siwr bo fi wedi mwynhau y llyfr yma oherwydd bod e wedi ei leoli yng Nghaerdydd – neu nes i mwynhau fe fwy oherwydd hynny o leia!  Braf yw darllen am lefydd eich plentyndod – a llefydd sy’n cyfarwydd – hyd yn oed lawr i’r ffaith bod un o’r cymeriadau yn mynd i’r un fferyllfa a fi!

Ma fe’n stori clyfar am sut mae dau fyd yn croesi yng Nghaerdydd – y cyfryngu dosbarth calon a’r bachgen difreintiedig o Drelai – neu Ely as it’s really known!  Fi moin nofel arall am Rod o Drelai – fe yw un o fy arwyr i nawr, even though odd fy magwraeth i yn un dosbarth canol yng Ngogledd Caerdydd!

Verdict: 850 allan o 1000

Love Wins – Rob Bell

Ar ôl yr holl fuss, yr holl dwitro, yr holl flogio a’r holl siarad – diflas odd fy mhrofiad i gyda Love Wins.  Mae’r fideo hysbysebu gan Rob Bell yn addo contoversy ar yr un raddfa a’n cyd-gymro palagiws – ond ma’r llyfr yn hynod o ddiflas.  Gofyn cwestiynau ma fe yn y fideo ac ma fe’n ateb rhei yn y llyfr. 

Dyw e just ddim yn dda.  Do’n i ddim yn disgwyl cytuno gyda fe – ond ma fe just yn GLOFF.  Mae’n gofyn cwestiynau am adnodau o’r Beibl – sydd fod swnio’n clyfar – ond chi justyn ffindio’ch hunain yn gweiddi – ma’r ateb yn y llyfr neu llythyr nesa! Read on!

Dyw e ddim yn dweud y pethau ma fe’n suggesto ma fe mynd i ddweud yn yr hysbysebu.  Fi’n poeni nath e just neud y fideo er mwyn gal ni i brynnu ei lyfr – ac yn anffodus mae di neud arian allan ohona i!

Verdict: 200 allan o 1000

The Christian Aethist – Craig Groeschel

Odd y llyfr yma yn ateb i weddi!  Dyw e ddim yn aml ma llyfrau Cristnogol yn atebion i weddi – yn enwedig rhai paperback gyda print bras!  Ond odd yr un yma yn ateb i weddi!

O’n i’n cerdded i’r siop ac yn gweddio – Duw fi’n credu ynot ti (big time!) ond fi’n cadw byw as if bo fi ddim.  Mewn i’r siop – a dyna lle odd y llyfr – The Christian Aethist – Believeing in God but living as if he doesn’t exist.  I bought it!

Ma rhaid i chi darllen e – ma fe mor hawdd i ddarllen!  Nath e siarad i fi tro ar ôl tro – mewn ffordd spooky bron!  Mae’n siwr ma hwna oherwydd i fi’n euog o’r un pethau mae lot sydd wedi eu magu yn y byd efengylaidd yn euog ohono – gweiddi am Iesu – ond so’n bywydau ni’n adlewyrchu fe!

Rhei o’r penodau: When you believe in God but… not prayer, don’t think you can change, pursue happiness at any cost, still worry all the time.  Nath y llyfr yma rili siarad i fi – ac ma’r illustrations yn GOOD!

Verdict: 900 allan o 1000

3 llyfr – un chi’n gorfod darllen, un sy’n good read ac un sy’n GARBEJ.

Diolch am eich amser.

8 Responses to “3 Llyfr”


  1. 1 Rhys Llwyd May 19, 2011 at 3:50 pm

    Lyfio sut wyt ti’n ratio nhw allan o 1,000!

    Ti’n iawn, ar y cyfan y prif beth oedd yn taro fi am Love Wins oedd fod e’n anti-climatic ar ôl yr holl hype. O ni’n meddwl fod y bennod ar Nefoedd yn dda a defnyddiol though. Ar ôl gorffen y PhD dwi mynd i ddarllen Suprised by Hope gan Tom Wright sef, yn ôl Andras, lle mae Rob Bell wedi cael y pethau da sydd yn Love Wins allan ohono.

    Safe.

  2. 2 serencymru360 May 19, 2011 at 3:56 pm

    fi di darllen – suprised by hope. be sy’n funny yw – ma Tony Jones a’i griw yn galw rheina sy’n beirniadu Bell yn Calvinistas – ond ma Wright yn dod i’w syniade fe yn suprised by hope trwy calfiniaieth – neu diwinyddiaeth diwigiedig ta beth!

  3. 3 Rhys Llwyd May 19, 2011 at 4:08 pm

    Mae’r ddadl rhwng Bell, dwed, a pobl fel Driscoll fel fersiwn very dumbed down o’r ddadl rhwng Tom Wright a John Piper.

    Dwi dal yn credu, er fod lot yn anghytuno a fi, fod y ddadl ynghylch Bell dal yn ddadl mewnol yn y byd efengylaidd yn hytrach na dadl rhwng y byd efengylaidd a boi (Bell) sydd tu allan.

    Ma lot o nuance Bell ynglŷn a’r ddaear newydd a’r nefoedd newydd ac yna ei oblygiadau ar y ddealltwriaeth o beth yw’r Iawn a’r Cymod (achub pobl neu achub y greadigaeth gyfan sy’n cynnwys pobl)yn debyg i beth oedd gan Tudur Jones i ddweud am y pethau yma. Ac mae hynny yn Galfinaidd yn ôl y traddodiad Cymreig.

    Mae gan y label Calfinaidd connotations gwahanol mewn gwahanol wledydd/traddodiadau yn does. Yn bennaf achos fod Calfinwyr ddim actually yn dilyn Calfin. Gwahaniaeth mawr rhwng Calfiniaeth y 5 pwnc a Chalfiniaeth Calfin ei hun.

    Yn y cyswllt yna dwi’n meddwl fod hi’n ddiog felly i alw Bell yn liberal ac i bobl fel Piper gyhuddo Tom Wright o fod ar slippery slope.

  4. 4 serencymru360 May 19, 2011 at 4:19 pm

    ma christianity magazine dal yn fodlon gweld rob bell fel pin up boy efengylaidd. mae’n rhaid bod y gair efengylaidd wedi newid ei ystyr unwaith eto!

  5. 5 Rhys Llwyd May 19, 2011 at 4:29 pm

    Hynny yn wir, ond nid o ran delwedd o ni’n meddwl, actual diwinyddiaeth. Os chi’n darllen pethau’r rhyddfrydwyr o’r 1930s chi’n gweld fod Bell ddim fel nhw. Dwi’n meddwl fod Bell ar the liberal end of evangelicalism yn hytrach na’r evangelical end of liberalism os ydy hynny’n neud sens?

  6. 6 serencymru360 May 19, 2011 at 4:33 pm

    ma rhaid i fi dweud – soi’n credu bod rob bell yn pregethu cristnogaeth – falle ma hwna’n eithafol – ond dwi’n meddwl bod ei ddeialog neu sgwrs neu beth bynnag yw’r gair emerging wedi symud o fod yn orthodox erbyn hyn.

  7. 7 Rhys Llwyd May 19, 2011 at 4:49 pm

    Fedrai ddim anghytuno a hwnna. Unig lle fasw ni’n anghytuno a ti a llawer o bobl erill efengylaidd mae’n siŵr yw mod i dal yn meddwl fod Bell yn helpu ni feddwl allan sut mae gweithredu ein ffydd yn niwylliant heddiw. Ond falle bo fi’n meddwl hynny jest achos fod pobl “hip” efengylaidd i gyd yn nut-jobs ffwndamentalaidd fel Driscoll. Ni angen rhyw fath o ffigwr sydd yn sound, yn cool a ddim yn ffwndamentalaidd. Andras falle?

  8. 8 Emlyn Uwch Cych May 21, 2011 at 8:55 am

    Mae copi o Bell da fi’n barod i’w ddarllen. Sdim pwynt, felly?

    Ron i’n gobeithio fase fe wedi gosod ei stondyn mas mewn ffordd sy’n glir i’w ddarllen. Rwts, fi’n gwbod. Ond, on i eisiau gweld rwts clir a chryno. Mae gwmaint o bobl yn dweud sdim ots be da’ch chi’n ei gredu, fydd pawb yn olreit yn y diwedd.

    Chwilio am yr antidôt dw i yn y pen draw: cyflwyno cariad angerddol Duw i’r rhai sy’n credu ynddo yn Iesu.


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Connecting to %s





Follow

Get every new post delivered to your Inbox.