Yng nghylchgrawn Golwg wythnos ma, ma na erthygl yn esbonio tra bod dirywiad yn y nifer o bobl sydd yn mynychu ein capeli mae mwy a mwy o bobl yn cymryd diddordeb mewn dodrefn a gwrthrychau ein capeli. I fod yn onest soi’n credu am eiliad bod llawer o bobl yng Nghymru yn hynod o excited am glociau capeli neu baneri’r gobeithluoedd ond mae’n rhaid bod yna digon er mwyn i Amgueddfa Ceredigion gallu cynnal ei arddangosfa presennol.
Mae CADW wrth gwrs hefyd o’r farn bod rhan fwyaf o’n capeli ni’n well off fel amgueddfeydd yn hytrach nag addoldai a chanolfanau cymunedol. Wrth iddynt listio’n adeiladau ni maent ond yn sicrhau bod y llefydd yma yn aros yn wag tra’n anghofio bod yna dal cymunedau bach yn trio cynnal rhyw fath o weithgarwch tu fewn i’r waliau.
Felly sut ydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n aros yn fyw – yn hytrach na byw yn San Ffagan?
Ydyn ni gyda rhywbeth mwy diddorol i cynnig na placiau coffa neu organ unigryw?
Sut ydyn ni’n cyfarthrebu yn gyfoes heb anghofio ein gorffenol?
Mae’n siwr mae’n haws gweld y capel neu’r eglwys fel rhywbeth hanesyddol – fel amgueddfa, yn hytrach na gwrando ar neges anhygoel Crist. Mae edrych ar hen bethau lot fwy cyfforddus na rhoi lan pob dim er mwyn dilyn Iesu. Mae’n iawn i ni feddwl hyn am bobl sy’n edrych mewn arnom ni o’r tu allan, ond beth amdanom ni fel Cristnogion neu capelwyr, ydyn ni’n cymryd fwy o ddiddordeb yn ein pethau ni yn hytrach na’n neges ni?
Smai Derek.
Dwi’n meddwl dy fod ti wedi cyffwrdd ag un o broblemau mawr nifer o gapeli Cymru yn fan hyn. Yn fy mhrofiad i, rhan o’r her i Gristnogion ar hyd a lled Cymru sy’n gweithio o fewn i’r traddodiadau/enwadau Cristnogol yw torri’r rhydd o’r ‘hen bethau’ a’r baggage sy’n dod gyda’r ‘diwylliant capel’. Mae’n rhaid i hynny ddigwydd er mwyn i Gristnogaeth gael ei wneud yn berthnasol i’r genhedlaeth hon. Dwi’n sicr fod ffordd o gyfuno’r hen a’r newydd mewn ffordd ffres a chyffrous sy’n rhoi’r flaenoriaeth a’r pwyslais yn y man cywir, sef dilyn Iesu.
Yn gyffredinol, dwi’n meddwl y gallwn ni rannu capelwyr i dri prif gategori: Rhai rhai sydd ddim eisiau gweld newid (capel = Cristnogaeth), rhai eisiau gweld lot fawr o newid (Cristnogaeth vs capel), a rhai sydd eisiau gweld newid ond o fewn ffiniau (Cristnogaeth, ond dim ond yn yr hen ‘wrapper’ oherwydd ei fod yn teimlo’n gyfforddus, h.y. rydyn ni’n hapus i weld newid ond peidiwch a symud y dodrefn).
Ers tro, rydw i wedi meddwl gwneud gweithgaredd gyda fy nghyd-aelodau yn defnyddio ‘flash cards’ (organ, capel, Beibl, pregeth, gweddi, gweinidog, addolwyr, ayb) a gofyn y cwestiwn ‘Hanfodol neu ddim yn hanfodol?’. Dal heb wneud, ond dwi’n siwr y byddai’n ddiddorol! Byddai’n gyfle hefyd i osod y blaenoriaethau yng nghyd-destun y Beibl.
Dal ati i blogio!
Daf
diolch am y comment – sori dim ond nawr fi’n gweld e! yn amlwg fi’n esgeuluso’r blog!
fi’n hoff o’r tri categori
cristnogaeth = capel
Cristnogaeth vs capel
ma isie rhywbeth cryno ar gyfer y 3ydd
nes i feddwl am ‘Cristnogaeth yn y Capel’ ond dyw hwna ddim yn iawn.
Beth sydd wedi bod yn diddorol am blannu eglwys yw pa mor werthfawr yw lot o’r hen bethau ond ar yr un pryd – faint o’r hen bethau odd rhaid i ni cael gwared ohono!
any ideas am y trydydd categori?
falle just – Cristnogaeth?!