Fi just moin hysbysebu cwpl o bethau – llyfrau a cherddoriaeth sydd di bod yn rhan o fy mywyd yn ddiweddar.
Llyfrau fi di darllen yn ddiweddar:
How to Change your Church for Good – Brad Powell
Y broblem gyda darllen am sut i blannu / trawsblannu eglwys yw bod bron pob llyfr yn hollol anaddas i’n sefyllfa ni. Mae un yn dechrau gyda – ‘Take 50 existing church members to the next town….’ Sneb gyda’r fath luxury! Ond mae’r llyfr yma yn well – dyw e ddim yn berffaith – mae dal yn american ond ma fe’n siarad synnwyr a ma’r awdur yn llwyddo i godi uwchben cyd destunau gwahanol a siarad yn gyffredinol. Dyw’r atebion ddim i gyd yma – ond ma fe’n help i weld eich capel chi fel ma fe ac ail edrych ar eich gweledigaeth. Marciau allan o ddeg: 8
Lessons from San Quentin – Bill Dallas & George Barna
Nes i ddechrau ar y llyfr yn y gobaith y byddai’n helpu fi dod yn fwy organised. (Nes i hefyd dechrau darllen Leaders Who Last (dal heb ei orffen) a defnyddio llyfr newydd Claiborne – Common Prayer) Nath y llyfr yma ddim rili helpu fi o gwbl yn y ffordd on i wedi gobeithio y byddai – ond mi oedd hi’n ddarlleniad bach diddorol iawn. Fi di dysgu lot fawr am fywyd yn y carchar yn America ac yn enwedig am ffydd a Christnogaeth o fewn y carchardai ymhlith y ‘lifers’. Fy hoff linell yn y llyfr yw’r ‘lifers’ yn dweud wrth y short-termers – you’re just lifers like us, you’re just on the installment plan! Dweud lot! Marciau allan o ddeg: 7
Awr y Locustiaid – Fflur Dafydd
Llyfr o storïau byr! Soi fel arfer yn darllen storïau byr ond o’n i’n flinedig yn Llansannan ac felly odd hi’n haws na llyfr cyfan! Byddwn i’n dweud celwydd os o’n i’n esgus bo fi’n deall pob stori! Yn enwedig yr un cyntaf! Ac yn dweud mwy o gelwydd os on in honni fy mod i’n deall pwynt pob stori! Ond nes i fwynhau – yn enwedig – Awr y Locustiaid – good stori am y fath yna o bobl! Marciau allan o ddeg: 7
Letters to a Young Calvinist – James K A Smith
Llyfr bach yn rhoi gwahoddiad i bobl ifanc sydd wedi ‘dewis calfiniaeth’ i ddod i dderbyn y traddodiad diwygiedig i gyd – a ddim just y bit am etholedigaeth. Nes i fwynhau’r llyfr yma a nes i dderbyn sawl ateb i fy nghwestiynau. Nes i fwynhau canolbwyntio ar beth yw diwinyddiaeth y cyfamod a dwi’n teimlo fi di elwa’n fawr o’r llyfr. Wrth gwrs ar adegau yr oedd yr awdur just yn gal go ar gwpl o bobl – mainly bedyddwyr (fi!) a phobl garismataidd (ie, fi) ac odd na darnau oedd yn cael ei gymryd yn ganiataol – ee. Odd e’n cymryd yn ganiataol os oeddech chi’n galfinydd eich bod chi’n bedyddio plant. Ond definately werth darllen! Marciau allan o ddeg: 8 ½ (bydde fe wedi cael mwy ond am y comments am fedyddwyr!)
Cerddoriaeth fi di bod yn gwrando arno’n ddiweddar:
Soi di tynnu fy CD Charlie Hall allan o’r CD player yn fy nghar ers mis! Wel nes i unwaith er mwyn defnyddio fe yn cwrdd yn Gomer! Ma’r worship album yma’n un o’r gorau fi erioed wedi clywed ac mae geiriau a cherddoriaeth Charlie Hall yn spot on! Mae’n rhaid i chi fynd i ffindio copi! Prynwch CD, downloadiwch e, dwynwch e! Just peidiwch â dwyn un fi! Marciau allan o ddeg: 10! No joke!

0 Responses to “Reviews”