New Breed

Nes i rili mwynhau mynd i’r gynhadledd New Breed yn Highfields prynhawn Dydd Sadwrn. Nath Steve Timmis siarad yn rili dda a nath Duw siarad â fi yn bersonol, nes i fwynhau gweddïo gyda phawb a chlywed am church plants y lleill, gan gynnwys un Bongo Clive ym Mancyfelin. Un peth nath rili taro fi oedd y syniad o rwydweithio. Bod ni gyd yn cytuno i helpu ein gilydd a rhannu ein doniau.

Fi’n rili credu bod ‘na lle am hyn yn y Cymry Gymraeg. Ni’n criw mor fach, ond yn ein plith ma na gymaint o ddoniau. Fi’n credu dylen ni cytuno i helpu ein gilydd, ac fel cafodd ei ddweud Dydd Sadwrn, dyle ni bod yn neud e am ddim. Dyle rheiny gyda doniau cerddorol, dylunio, efengylu, dysgu ayyb bod yn barod i helpu gan ddeall bod y person arall yn fodlon talu’r ffafr yn ôl. Ac fel cafodd ei ddweud Dydd Sadwrn – sdim rhaid i ni boeni am bellteroedd oherwydd ma da ni ceir! A hyd yn oed pan ddoedd dim car da fi, nes i dal manago i deithio i helpu ar draws y Gogledd.

Bydde byw a gweithio fel hyn yn gwneud gwahaniaeth massive i’n cenhadaeth ni yng Nghymru, ni gyd angen gweithio mas be ni’n gallu neud, ond hefyd be ni’n methu neud – a bod yn barod i ofyn i rywun arall i ddod a neud e! Wrth weithio fel hyn, mae’n bosibl i ni edrych ar ein cenhadaeth ni fel cenhadaeth Cymru- gyfan a gallwn ni gweld ein cenedl ni yn cael ei drawsnewid!

1 Response to “New Breed”


  1. 1 Rhian Jones November 23, 2010 at 8:02 pm

    Wrth fy modd efo dy flogiadau di Derek. Mae’n braf darllen am dy waith a hefyd mae dy ddiweddariadau yn profocior meddwl ac yn cyfwlyno her i ni gyd. Cytuno yn llwyr efo dy flog mwya diweddar. Mae’n byd ni mor fach ac oes ma gennym geir ond mae gennym gyfrifiaduron hefyd sy’n ein galluogi i gyfathrebu an gilydd, rhanu syniadau a chefnogi ein gilydd heb hyd yn oed godi on seddau. Mae’n bwysig i ni felly gydnabod beth yw ein doniau a gwirfoddoli i gynorthwyo ein gilydd pryd bynnag y gallem er mwyn dod a chlod i Dduw a lledaenu ei neges. Diolch am dy arweiniad a phob bendith xx


Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Connecting to %s





Follow

Get every new post delivered to your Inbox.