Fi dal yn rili mwynhau ein cwrs alffa. Ma cwrdd pob nos lun dros bwyd a cael trafodaeth wedi bod yn fendithiol iawn i mi. Mae’n rhaid i mi ddweud bo fi di gadael sawl sesiwn gyda lot fwy o gwestiynau na pan nes i ddechrau paratoi. Ond ydy hyn yn peth gwael? Nath ffrind i fi cael mewn trwbl gyda UCCF yn ddiweddar am baratoi astudiaethau nad oedd yn arwain tuag at un ateb efengylaidd, ond yn hytrach, yn gofyn am barn Cristnogion efengylaidd (gyda e bach (os chi’n cael dweud hwna!)) o gefndiroedd gwahanol, h.y. carismatics, pentecostal, arminiaid, calfiniaid ayyb. Gyda rhai pynciau neu themau, soi’n siwr os oes yna un ateb efengylaidd. A beth yw ateb efengylaidd? Fi’n siwr dylse fi cael fy saethu am ofyn hyn. Wrth gwrs dim ond un ateb sydd i’r cwestiynau mawr, fel sut ydw i’n dod yn Gristion? Neu sut ydw i’n dod at y Tad? ond beth am cwestiynau am faterion eilaidd?
Mae’n taro fi bod yr ‘ateb efengylaidd’ yn fwy i wneud gyda’r hunaniaeth efengylaidd nag yw e gyda bod yn efengylaidd – sef bod yn feiblaidd. Fi’n poeni ar adegau mae’r prif rwystr i’n cenhadu ni yw’r obsesiwn gyda bod yn efengylaidd. Ni’n ofn cenhadu oherwydd ni’n ofn bod y ddiwinyddiaeth ni di setio mas mewn fformiwlâu bach taclus mynd i gael ei messo lan, neu fod ni’n mynd i dorri un o’r rheolau mawr efengylaidd – fel pregethu yw’r peth pwysicaf.
Wrth gwrs fi’n cytuno bod pregethu yn hollbwysig, byse fi’n mynd mor bell a dweud mai pregethu yw fy unig ddawn mewn bywyd – if only there’d been preaching clubs at school, yn lle côr neu rygbi – wedyn bydde fi di bod yn dda at rywbeth ond am maths! Fi’n credu bod cyhoeddi’r Gair yn hanfodol a gwneud hynny trwy pregethu, ond eto fi’n stryglan gyda’r syniad yma mai pregethu yw’r prif ffordd mae pobl yn dod yn Gristnogion oherwydd fy mhrofiad.
Dros y blynyddoedd diwethaf dim ond un o’r bobl fi di cael y fraint o arwain i Grist sydd wedi dod yn Gristion yn ystod pregeth. Tra bod y lleill wedi dod trwy grwpiau trafod, amseroedd o addoliad neu sgyrsiau fel ffrindiau. Soi’n ymuno gyda’r criw rhyddfrydol emerging sydd yn dweud bod oes y bregeth ar ben, ond soi’n siŵr os yw ein pwyslais ar y bregeth yn ein rhwystro ni rhag cenhadu mewn ffyrdd eraill. Fi’n cofio rhywun yn dweud wrtha i unwaith mae paratoi dwy bregeth yr wythnos yw gwaith gweinidog. Ydy hyn yn wir?
Fi just moin gofyn y cwestiynau. Nath rhywun dweud bod chi’n gallu spotio rhywun rhyddfrydol pan ma mwy o diddordeb da nhw yn y cwestiwn na’r ateb, ond serious, ma da fi diddordeb yn eich atebion (ac eich cwestiynau!)
Fei GEI di dy saethu am hwn, Derek! At ei gilydd dyw pobl efengylaidd ddim yn hoffi gofyn unrhyw gwestiwn sy’n awgrymu nad oes atebion pendant, du a gwyn ar gael. Ond onid y gwir yw nad ydy pethau ddim hanner mor ddu a gwyn ag y tybia rhai? Pa mor sicr allwn ni fod mewn difrif – hyd yn oed efo rhai o’r cwestiynnau mawr? Ac rwyt ti siwr o fod yn llygaid dy le yn awgrymu fod llawer mwy o le i drafod ynghylch y cwestiynnau eilradd.
Rhaid bod cyfle i drafod, i holi, i amau, hyd yn oed i newid ein meddwl ar adegau. Dyma yw’r sefyllfa iach mewn eglwys. Rhywbeth cymharol diweddar yw ffwndamentaliaeth – system nad oes lle i ofyn unrhyw gwestiwn gan eu bod yn credu fod y gwir i gyd ganddynt.
Fel un o’r ‘emergents’ – gadawf i eraill benderfynu pa mor ryddfrydol ydw i – dwi’n dal i gredu bod pregethu’n bwysig. Ond rhaid inni beidio a chredu mai un ffordd o bregethu sydd – un dyn o’r pulpud ar fore/nos Sul. Rhaid creu lle i ddeialog hefyd. Ac mae digon o le inni allu darganfod ffyrdd ffres o gyhoeddi’r newydd da.
At dy gwestiwn ynglyn a gwaith gweinidog rwan: mae’n dibynnu ar dy weinidogaeth, onid ydi? Os mai gweinidogaeth dysgu/athro sydd gen ti, yna dyna yn rhannol fydd dy ddull o gyfathrebu. Ond os mai bugail wyt ti, yna ddim; neu os mai proffwyd wyt ti, neu efengylydd, neu beth bynnag, yna eto, ddm pregethu fydd dy brif ffocws. Y cwsetiwn i’w ofyn ydi, nid faint o bregethu ddylai’r gweinidog ei wneud, ond beth yw natur dy weinidogaeth. O fewn yr enwadau traddodiadol mae pregethu yn dal yn bwysig oddi fewn i rôl y gweinidog. Efallai fod amser i hyn newid. Horses for courses ddyle hi fod, onid e?
Rwyn gwerthfawrogi dy onestrwydd di fan hyn, Derek. Paid a bod ofn gofyn y cwestiynnau. Mi fydd digon am dy saethu am wneud cofia. Fyny i ti wyt ti’n malio amdanynt neu beidio.
Dyfed.
Yn hytrach na sgwennu ateb ar gyfer pob sylw a chwestiwn am bregethu, na i jyst argymell llyfr Stuart Olyott “Preaching Pure and Simple” a rhoi 2 reswm: 1) Rhys – mae ei feini prawf o’n lot gwell. 2) Derek – y cwestiwn byse’r llyfr yn rhoi ydi ‘pwy sydd i ddweud nad pregethu wyt ti’n neud mewn sgyrsiau personol a.y.b.?”
Mae Don Carson newydd gyhoeddi/ar fin cyhoeddi llyfr o’r enw “Evangelicalism: What is it? And is it worth keeping?” Os ydi o’n debyg i’r ddarlith roddodd o chydig yn ol (yma: http://thegospelcoalition.org/blogs/justintaylor/2010/01/12/carson-lecture-on-evangelicalism/) bydd o’n werth darllen.
Ynglyn a’r syniad o ‘ateb efengylaidd’, fyswn i’n dweud fod angen gofyn y cwestiynau canlynol: “Ydi’r gwir yn bodoli?” – ydi; “Oes rhywun yn gwybod y gwir i gyd?” – oes, Duw; “Oes modd cywir o ddeall yr hyn mae Duw wedi datgelu?” – oes; “Ai dyma’r modd ‘dyn ni’n ei ddefnyddio o hyd?” – na, ‘dyn ni ddim hyd yn oed yn deall datguddiad cyffredinol yn iawn o hyd heb son am ddatguddiad arbennig (Rhufeiniaid 1:18).
Serch hynny, mae lot yn ddigon clir i gael un ateb cywir, a lle mae pethau’n gymhleth, mae gweddill y Beibl gennyn ni i drio gweithio trwy’r cwestion, yn ogystal a miloedd o ddynion duwiol a doeth dros y canrifoedd i drio’n helpu ni, a’r Ysbryd Glan ei hun i’n helpu ni. Dwi’n meddwl felly fod na adegau lle allen ni ddweud “Mae hwn yn gywir ac mae hwnna’n anghywir” (e.e. “Ydi Iesu wedi atgyfodi ac yn fyw ac ar yr orsedd ar ddeheulaw y Tad heddiw?” – YR ateb ydi “Ydi”), ond os nad ydi o’n ddigon clir i neud hwnna, mae dal yn bosib dweud “Dwi’n meddwl fod hwnna’n anghywir ac mae’n ymddangos i mi mai hwn sy’n gywir”. Dydi’r ffaith na allwn ni wybod unrywbeth yn llawn ddim yn meddwl na allwn ni wybod unryw wirionedd.
Diolch! Am y comments!
Gethin – ie fi di darllen llyfr Stuart Ollyot ac hefyd wedi cael fy narlithio ganddo yn Llansannan. Nes i rili mwynhau y llyfr a mae fy mhregethu wedi beniffito o’i ddarllen e. Soi’n completely siwr am y syniad bod na ddim gwahaniaeth rhwng pregethu’r Efengyl a dysgu’r saint. Fi’n deall wrth gwrs bod yna ychydig o ddysgu wrth i fi pregethu’r Efengyl, a dylse fi byth dysgu’r saint heb esbonio’r Efengyl, ond fi yn credu bod yna gwahaniaeth oherwydd mae’r Beibl yn dweud bod yr efengylwr a’r athro yn wahanol.
Hefyd ie fi’n cytuno mae yna elfen o bregethu wrth i fi trafod ac wrth i fi sgwrsio gyda ffrindiau, fi’n gallu deall hynny.
Fi’n cytuno bod yna gwir absoliwt, soi’n cwestiynnu beth mae’r Beibl yn dweud, ond fi’n credu beth sy’n bothran fi yw’r ‘llinell efengylaidd’ ynglyn a’n dulliau cenhadu, a’r diwilliant efengylaidd. Ma gymaint o bobl efengylaidd yn credu pethau heb wybod pam, just yn cymryd bod e yn y Gair, a wedyn pan chi’n edrych mewn iddo fe, so fe na. Ma fe bron fel catholigiaeth – o rhan ma penderfyniadau yn cael ei neud mwy ar traddodiad (traddodiad efengylaidd) nag yw e ar beth mae’r Gair yn dweud.
Dyfed – ie fi’n cytuno, gweithio yn ol y rol ma Duw wedi rhoi i ni sydd yn bwysig. O fewn y capeli traddodiadol ni di gwasgu unrhyw rol mewn i un, sef y gweinidog. Mae’r carfan efengylaidd yn digon beirniadol o’r capeli traddodiadol, ond y gwir yw ma nhw wedi gwneud union yr un peth. Sdim lle i’r efengylwr, just yr athro, a sdim son o gwbl am y proffwyd neu’r apostol. Fi’n rili falch bod y bedyddwyr wedi rhoi’r cyfle i fi cael bod yn efengylwr, ac falle fy mai i yw e bod fi wedi trio bod yn pob dim.
Rhys – plis paid a meddwl bo fi wedi stopio credu’n gryf mewn pregethu – fi yn, ond fi just yn poeni weithie bod y pwyslais mawr ar y bregeth a’r pregethwr yn stopo ni rhag bod yn effeithiol yn ein cenhad aeth. Oherwydd y gwirionedd yw, sdim lot o bobl yn troi mewn i wrando ar bregeth erbyn hyn, felly sut ma pregethu evangelistic yn edrych? Dwim yn meddwl mai pregethu ar y stryd yw’r ateb, felly sut ydw i’n ‘pregethu’r’ efengyl i’r gymuned cymraeg? Un peth nes i ddysgu yn Llansannan oedd bod rhaid i ni ennill parch y gynulleidfa – bod rhaid i ni ennill yr hawl am wrandawiad.
O ran y pwynt am awdurdod y Beibl- fi’n credu bod y Beibl yn Gair Duw oherwydd fi’n Gristion, nes i ddim dod i’r penderfyniad yna ac wedyn troi at Grist. Ond ma awdurdod y Beibl yn holl bwysig oherwydd bydde fi ddim yn gallu troi at Grist hebddo fe. Oherwydd mae’n rhaid bod y bregeth, neu’r sgwrs, neu’r llyfr sy’n esbonio’r Efengyl i fi yn gorfod dod o a dibynnu ar y Beibl, fel Gair perffaith Duw.
Fi’n credu falle dylse ti ychwanegu bullet point arall i dy list – sef y cymhwysiad. Mae isie esbonio sut i fyw’r neges ti’n esbonio o’r adnodau ac yn dy ddarluniau ayyb.
O ran y dau math o bregethu, byswn i’n cytuno efo Stuart. Beth bynnag, dwi’n deall dy bwynt ynglyn a’r llinell efengylaidd. Dwi’n medal fod angen bod yn agored i’r posibilrwydd fod beth bynnag ydi’r ‘llinell’ yn gywir, ond yn sicr mae angen gwybod o’r Beibl pam/pam lai. Dwi ddim yn gwbod os wyt ti’n gyfarwydd a’r podcast “White Horse Inn” (mae’n reit dda), dwi’n hoff o’u ‘strapline’ “Know what you believe and why you believe it” – Mae angen mawr am hwnna ym mhobman.
ma andrew settatree newydd sgwennu ‘book review’ am lyfr sy’n helpu ni ffindio’r intended meaning – checkia’i facebook fe!
Sori. Diffyg gofal wrth ddarllen oedd hwnna.
Serch hynny, mae Stuart yn son dipyn am steil yn y llyfr. Son am yr “intended meaning” ydi be sydd yn y maen prawn cynta “exegetical accuracy” Mae tua 6 arall os dwi’n cofio’n iawn.
Ddim yn siwr dwi’n deall be ti’n meddwl pan ti’n son am wahaniaeth rhwng ‘derbyn awdurdod’ a ceisio deall ystyr y Beibl. Mewn ffordd, y Beibl ydi’r “intended meaning” h.y. Y Beibl sydd â’r awdurdod, nid fy niffiniad i o’r hyn maen ei ddweud- hyd yn oed os dwi’n diffinio fo’n gywir. Ond dwi’n amau falle fod gen ti syniad pendol o ystyr ‘derbyn awdurdod’?
Wedi dileu fy sylwadau i, o’r ymateb cyhoeddus a phreifat ges i mae’n amlwg i mi fethu a egluro fy hun yn glir ac i mi ddod drosodd yn an-raslon. Ymddiheuriadau am hynny. Fy mwriad oedd cyfrannu’n greadigol i’r drafodaeth er lles ein tystiolaeth i’n cyd-Gymry ond mae’n ymddangos fod fy nhôn tuag at Gristnogion nad sy’n rhanu’r un gweledigaeth a mi yn dod drosodd yn angharedig. Nid oeddwn wedi bwriadu brifo neb, felly sori.
Y prif bwyntiau oeddwn i’n trio cael drosodd oedd:
1. Fod gan y label “efengylaidd” llawer o connotations negyddol yn y Gymry Gymraeg a hynny am sawl rheswm. Er gwell neu er gwaeth mae hynny’n golygu mod i wedi gweld hi o fudd i osgoi defnyddio’r label yn gyhoeddus a hynny er mwyn i bobl wrando yn ddi-ragfarn ar, yn eironig, yr efengyl.
2. O ran pregethu, nodais fod pregethu wedi cael llawer o bad press yng Nghymru oherwydd ein bod ni i gyd, ar y cyfan, yn methu cyfathrebu’r efengyl oesol mewn pregeth i’n hoes. Erbyn heddiw dydy pregethu’r “gwir” yn “ffyddlon” ddim yn ddigon. Rhaid pregethu’r gwir yn ffyddlon yn effeithiol. O’i roi mewn ffordd arall – heb fod yn effeithiol dydym ni ddim yn ffyddlon i’r gwir!