Ceinewydd
Soi erioed di bod mor oer ag o’n i yn y môr yn Nhresaith am hanner di wyth bore Dydd Mawrth diwethaf. O’n i di bod yn aros dros nos yn Nhresaith gydag arweinwyr ifanc Cymru ac yn y gobaith o weld Dewi Pws! Gafon ni amser da yn trafod gyda’n gilydd, tan 4yb, ac yn dal lan ar bopeth sy’n mynd ymlaen.
Ar ôl cinio Dydd Mawrth aethom ni draw i’r Ceinewydd i gael paned ym mans newydd Rhodri Glyn ac Andras Iago. Ar ol tour o’r capeli a’r ardal dyma ni’n mynd i ymweld â lleoliad Llanw blwyddyn nesaf!
Dydd Sul mi fydd Rhodri ac Andras yn cael ei sefydlu fel gweinidogion dan hyfforddiant yn ardal y Cei Newydd. Ma da nhw 6 o gapeli mewn ardal wledig a nath aderyn bach dweud wrthai odd da nhw tua 100 o bobl yn yr oedfa Dydd Sul diwethaf – get in. Ni gyd yn gobeithio bydd Duw yn dda a fi’n edrych ymlaen at glywed am bobl yn dod i’r bywyd yn yr ardal! O ie, a fi’n edrych mlan at fynd i aros yn y spare room am wylie bach!
Clwb Plant
Odd hi’n exciting iawn i ail gychwyn ar y clwb plant pnawn Dydd Mercher yn Waunarlwydd gyda phlant y Login Fach. O’n i arfer bod yn terrified o waith plant, odd rhaid i Meirion Morris fforsio fi i neud gwaith plant pan o’n i yn Llansannan! A diolch byth am ny, oherwydd nes i rili mwynhau neud y stori, y gems a’r crefft Dydd Mercher!
Odd hi’n braf cael grŵp o blant Cymraeg yn dod i’r capel ac yn amlwg yn mwynhau. Gobeithio bydd yna mwy yna eto Dydd Mercher!
Cwrdd Sefydlu John Treharne
Dydd Sadwrn gafon ni’r fraint o fod yn y gynulleidfa yng nghwrdd sefydlu John Treharne yn y Tabernacl, Llwynhendy. Fi di rili mwynhau mynd draw i’r Tabernacl dros y flwyddyn ddiwethaf i bregethu ac i siarad yn y clwb ieuenctid. Odd hi’n braf gweld John Treharne yn cymryd arweinyddiaeth y capel gan ddiolch am amser Cecil Jenkins, oedd yn weinidog yn y Tabernacl am hanner can mlynedd!!!
Ar ôl i Dennis Young pregethu mewn a ni i’r neuadd ar gyfer y buffet! Chi’n gwybod bod buffet yn posh pan ma rhywun wedi torri’r crusts off y sandwiches!
0 Responses to “Wythnos”