Wedi cael cam?
Ydych chi erioed wedi cael cam yn yr eisteddfod? Erioed wedi cael eich curo gan rhywun oedd yn gwaeth na chi? Mae’r gwrthwyneb yn wir i mi – fi di dod yn gyntaf gyda parti bechgyn glantaf yn steddfod llanbed – ar ôl meimio yn y cefn – gyd gallai neud yw diolch i weddill y bois!
Ydych chi erioed wedi anghofio’ch geiriau fel Wil Cwac Cwac a poeni bod eich rhieni mynd i stopio eich caru chi?
Ma’n byd ni yn dysgu ni o oedran ifanc iawn bod ein statws ni yn dibynnu ar ba mor dda ydyn ni. Ma na bwyslais i lwyddo – i ennill bob cystadleuaeth ac i basio bob arholiad.
Fi’n cofio bod yn gutted bod fi ddim wedi cael tair A yn fy arholiadau AS!
Ond yn Rhufeiniaid 12 ni’n cael ein dysgu i beidio a meddwl fel y byd – i weld pobl yn llai neu yn fwy na ni. Oherwydd mae pawb yr un peth i Dduw. Dychmygwch beth odd hwna’n olygu i Gristnogion Rhufeinig.
Rhufain – dinas ac ymerodraeth llawn heiararchiaeth – pawb yn is neu yn uwch na’i gilydd. Odd y syniad bod pawb yn yr Eglwys yn hafal yn un anodd iddynt – caethwas yn eistedd gyda’r cyfoethog. Caethwas yn dysgu y cyfoethog?
Dychmygwch beth ma fe’n golygu i bobl y Dhalit yn India neu yn niwrnod Wiberforce.
Ond beth amdanom ni – ydyn ni’n gallu gweld heibio beth mae’r byd yn dweud sy’n dda – a phwy ma’r byd yn dweud sy’n bwysig!
Os ydw i’n deall gras – sut ydw i’n gallu gweld fy hun yn well, neu’n waeth nag unrhyw un? Os ydw i’n deall fy mod i’n pechadur – a fy mod i wedi derbyn y rhodd o faddeuant – sut allai ymffrostio? Wrth i fi ddeall hyn – fi hefyd yn cael fy atgoffa does yna ddim grwp o bobl sy’n gallu cael eu hachub a rheiny sydd ddim – mae pawb yn gallu dod at Dduw i derbyn yr un rhodd – y rhodd ni gyd angen derbyn – maddeuant.
Un o hoff ganeuon fy nhad yw cân plant o’r enw ‘I’m Special’ ac ma’r plant yn ei ysgol yn canu fe’n rheolaidd! Ma fe isie i bob un o’r plant yna deall yng nghanol yr holl gwaith academaidd, yng nghanol yr holl cystadlaethau – bod pob un ohonyn nhw yn sbeshal yn llygaid eu Duw nhw.
Ma fe’n wir i bob un ohonom ni!


















